P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susan Stuart, ar ôl casglu cyfanswm o 964 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Y nod yw annog y Llywodraeth i ailystyried y penderfyniad i gau campfeydd a chanolfannau hamdden, ac i ddod i gytundeb i’w hailagor. Mae nifer o bobl yn defnyddio’r cyfleusterau hyn i hybu eu hiechyd meddwl a’u lles a byddai’n fuddiol eu hailagor gyda chyfyngiadau.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae rhai prosesau y gellid eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau hyn yn cadw at bolisïau cadw pellter cymdeithasol a pholisïau hylendid. Byddai modd gwneud hynny mewn ffordd fwy diogel ac mewn ffordd sy’n haws ei rheoli na’r hyn sy’n digwydd yn y siopau sydd ar agor ar hyn o bryd ac yn sicr yn haws i’w rheoli na’r hyn sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer siopau ‘nad ydynt yn hanfodol’.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pontypridd
· Canol De Cymru